I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn byddwch angen:
- y rhif cyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith a roddwyd i chi gan y cofrestrydd
- enw, dyddiad marwolaeth a rhif Yswiriant Gwladol yr ymadawedig
- manylion cyswllt, dyddiad geni neu rif Yswiriant Gwladol y perthynas agosaf (perthynas agosaf trwy waed neu briodas)
- manylion y person neu gwmni sy'n delio â thŷ, eiddo ac arian (ystâd) yr ymadawedig
Nodwch: cyn rhoi manylion y perthynas agosaf neu'r person sy'n delio ag ystâd yr ymadawedig, rydych angen eu caniatâd i wneud hynny.